Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 3 Rhagfyr 2018

Amser: 14.30 - 15.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5024


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Mick Antoniw AC (Cadeirydd)

Suzy Davies AC

Mandy Jones AC

Dai Lloyd AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Sarah Sargent (Ail Glerc)

Ruth Hatton (Dirprwy Glerc)

Alys Thomas (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Katie Wyatt

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC a Lee Waters AC.

</AI1>

<AI2>

2       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI2>

<AI3>

2.1   SL(5)282 - Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2018

</AI3>

<AI4>

2.2   SL(5)283 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

</AI4>

<AI5>

3       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 ond sydd â goblygiadau o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE

</AI5>

<AI6>

3.1   SL(5)281 - Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo  (Cymru) (Diwygio) 2018

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad er mwyn tynnu sylw at faterion o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.

</AI6>

<AI7>

4       Offerynnau Statudol sy'n gofyn am Ganiatâd yn unol â Rheol Sefydlog 30A - Ymadael yr UE

</AI7>

<AI8>

4.1   SICM(5)6 - Rheoliadau Meinweoedd Dynol (Ansawdd a Diogelwch at Ddefnydd mewn Bodau Dynol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol.

</AI8>

<AI9>

4.2   SICM(5)7 - Rheoliadau Ansawdd a Diogelwch Organau y Bwriedir eu Trawsblannu (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol.

</AI9>

<AI10>

5       Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

</AI10>

<AI11>

5.1   WS-30C(5)24 - Rheoliadau Trapiau Dal Coesau a Mewnforio Crwyn (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

</AI11>

<AI12>

5.2   WS-30C(5)25 - Rheoliadau Anifeiliaid Ceffylaidd (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

 

</AI12>

<AI13>

5.3   WS-30C(5)26 - Rheoliadau Diogelwch ac Ansawdd Gwaed (Diwygiad) (Ymadael â'r UE) 2019

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

 

</AI13>

<AI14>

5.4   WS-30C(5)27 - Rheoliadau Cynhyrchion Organig (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

 

</AI14>

<AI15>

5.5   WS-30C(5)28 - Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

 

</AI15>

<AI16>

5.6   WS-30C(5)30 - Rheoliadau Rheolau Darpariaethau Cyffredin y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a'r sylwebaeth.

 

</AI16>

<AI17>

6       Papurau i’w nodi

</AI17>

<AI18>

6.1   Llythyr gan y Llywydd ynghylch diwygio'r Cynulliad: cymhwysedd deddfwriaethol

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd.

</AI18>

<AI19>

6.2   Gohebiaeth rhwng Senedd y DU a Llywodraeth y DU ynghylch llif offerynnau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth sy'n ymwneud â llif offerynnau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018.

</AI19>

<AI20>

6.3   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.

</AI20>

<AI21>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI21>

<AI22>

8       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amaethyddiaeth y DU : Adroddiad Drafft

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

</AI22>

<AI23>

9       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol)

Nododd y Pwyllgor y briff a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet ddechrau mis Ionawr.

</AI23>

<AI24>

10    Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd

Nododd y Pwyllgor y briff a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ionawr.

 

</AI24>

<AI25>

11    Bil Deddfwriaeth: Dull craffu Cyfnod 1 (yn amodol ar gyflwyno'r Bil)

Cytunodd y Pwyllgor ar ei dull craffu Cyfnod 1 ac i gyhoeddi galwad cyffredinol am dystiolaeth yr wythnos hon. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i roi gwahoddiadau i randdeiliaid i ofyn iddynt ddarparu tystiolaeth lafar ym mis Ionawr.

</AI25>

<AI26>

12    Blaenraglen waith

Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith amlinellol ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

</AI26>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>